RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl29

1

Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu i dalu am y gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.

2

Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy’n briodol yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr cymwys.

3

Ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

a

£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

b

£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

c

y gwariant ychwanegol sy’n cael ei ysgwyddo—

i

yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,

ii

yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;

d

£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy’n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig a bennir yn y paragraffau hynny.

4

Os yw’r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu i dalu am wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â’r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (3)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.

5

Uchafswm y grant o dan baragraffau (3)(a) a (3)(d) yw £15,885 a £1,338, yn y drefn honno—

a

os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

i

a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

ii

sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

iii

a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; a

b

os, mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser ac ymarfer dysgu llawnamser gyda’i gilydd yn llai na 6 wythnos.

6

Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

7

Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

8

Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), mae grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

9

Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)), caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

10

Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraffau (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd, y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl.