RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw28

1

Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—

a

nad yw’r myfyriwr cymwys wedi ei hepgor o fod â’r hawl gan unrhyw un o’r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

b

bod y myfyriwr cymwys yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’n gwneud cais amdano.

2

Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod odano.

3

Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—

a

blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari;

b

blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

i

a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

ii

sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

iii

a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs,

iv

pan fo cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb llawnamser, gan gynnwys presenoldeb at y diben o ymarfer addysgu, yn llai na 6 wythnos;

c

cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sydd yn parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.

4

Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion bod â hawl i gael grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan reoliad 29.

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.

6

Nid yw paragraff (5) yn gymwys at ddibenion rheoliadau 29 i 35, i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam.

7

Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

8

At ddibenion paragraff (7), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—

a

gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

b

gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy’n darparu cyfleusterau neu sy’n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

c

gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu’r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

d

ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr cymwys sy’n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

e

gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o’r canlynol—

i

yr Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o’r Ddeddf honno50;

ii

Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o’r Ddeddf honno51;

iii

Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 197852;

iv

Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol neu’r Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adrannau 7 a 12 o Ddeddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 200953;

v

Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Grŵp Comisiynu Clinigol a sefydlwyd o dan adran 1I o’r Ddeddf honno54; neu

vi

y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth mewn Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 neu’r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno55.

9

Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliadau 40 i 48 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

10

Nid yw paragraff (9) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—

a

bod y flwyddyn academaidd honno yn flwyddyn Erasmus yn unol â rheoliad 21(2); neu

b

bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

11

Ym mharagraff (9) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 40, yw grant ar gyfer ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliadau 41 i 48, benthyciad at ffioedd.

12

Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr fod â’r hawl i gael grant penodol yn unol â’r Rhan hon mewn perthynas â rhan o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

13

Y digwyddiadau yw—

a

bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

b

bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

c

bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

d

bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

e

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

f

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

g

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

14

Yn ddarostyngedig i baragraff (15), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw’n garcharor.

15

Nid yw paragraff (14) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.

16

Rhaid trin myfyriwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael y grantiau canlynol—

a

grantiau ar gyfer dibynyddion;

b

grant at gostau byw myfyrwyr anabl;

c

grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

d

grant addysg uwch.

17

Mae paragraff (16) yn gymwys i’r canlynol—

a

myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

b

myfyriwr cymwys anabl—

i

nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

ii

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac

c

myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.

18

Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell yr hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio (pan fo’n briodol) grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 29.