RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD
PENNOD 3BENTHYCIADAU CYFRANNU AT FFIOEDD A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD
Benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam27
1
Mae gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
2
Nid oes benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn Erasmus.
3
Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
a
£5,535; neu
b
y gwahaniaeth rhwng £3,465 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.
4
Os yw myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.