RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD
PENNOD 3BENTHYCIADAU CYFRANNU AT FFIOEDD A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD
Benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat26
1
Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
2
Nid oes benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—
a
yn flwyddyn bwrsari;
b
yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
c
yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
3
Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 17(4), 20(7), 20(8) neu 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
a
£6,000;,a
b
y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
4
Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu reoliad 20(7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
a
£3,000; a
b
y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
5
Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw rheoliad 20(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
a
£1,200; a
b
y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
6
Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw rheoliad 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
a
£900; a
b
y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
7
Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.