RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD
PENNOD 3BENTHYCIADAU CYFRANNU AT FFIOEDD A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD
Benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd24
1
Caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad at ffioedd mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs dynodedig cymhwysol.
2
Uchafswm y benthyciad at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw’r lleiaf o’r canlynol—
a
£1,380 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £680; a
b
gweddill y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a swm sy’n hafal i’r grant at ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall wedi ei ddidynnu oddi wrtho.
3
Os yw’r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.