RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD

PENNOD 2GRANTIAU AR GYFER FFIOEDD

Grant at ffioedd19

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais am grant at ffioedd nad yw ei swm yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

2

Nid oes grant at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

a

os yw’r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus;

b

os yw’r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

3

Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw’r un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £2,085 neu y gwahaniaeth rhwng £1,380 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw’r lleiaf.

4

Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £1,045 neu’r gwahaniaeth rhwng £680 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw’r lleiaf.

5

Yn y Rheoliadau hyn ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), ystyr “myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd” (“eligible student who qualifies for a fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

6

Nid yw myfyriwr carfan newydd neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yn fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd.

7

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy’n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.