RHAN 14DIWYGIO RHEOLIADAU 2012

Diwygio Rheoliadau 2012132

1

Mae Rheoliadau 2012 wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau canlynol.

2

Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

  • “ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs dynodedig—

    1. a

      sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013;

    2. b

      pan ymgymerir â blwyddyn gyntaf y cwrs ar sail gywasgedig a bod modd ei chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis; ac

    3. c

      pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill ar y cwrs ar y sail gywasgedig honno.

3

Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “blwyddyn academaidd”, rhodder—

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw—

    1. a

      mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr yn y drefn honno; neu

    2. b

      mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o wyth mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr yn y drefn honno;