RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU
Gordaliadau131
1
Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt o’r farn nad yw’n briodol i wneud hynny.
3
Dyma’r dulliau ar gyfer adennill—
a
tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
b
cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.
4
Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
5
Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
6
Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau ym mharagraffau (7) a (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
7
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—
a
pan fo Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;
b
pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
c
pan nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.
8
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—
a
pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a
b
pan wneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.
9
Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.