RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU
Swm y grant129
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y grant sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan y Rhan hon yw’r cyfryw swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.
2
Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.
3
At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw’r “mathau o wariant cymwys”—
a
gwariant ar gynorthwyydd nad yw’n gynorthwyydd meddygol;
b
gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a
c
gwariant ychwanegol a ysgwyddir—
i
o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;
ii
o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o’r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu’r Athrofa.
4
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant o dan y Rhan hon yn daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
5
Pan fo grant o dan y Rhan hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.
6
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 123(2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys fod â hawl i gael grant o dan y Rhan hon.