RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Cyrsiau ôl-radd dynodedig124

1

Mae cwrs ôl-radd yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 122—

a

os yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu’n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

b

os yw’n gwrs—

i

sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

ii

yn achos cwrs rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol; neu

iii

yn achos cwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

c

os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac

d

nad yw’n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

2

At ddibenion paragraff (1)—

a

mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

b

bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac

c

ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199288.

3

At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

a

ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser dan sylw;

b

ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw’r cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn cwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol.

c

ystyr “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i’w ystyried yn un—

i

sydd wedi dechrau ar y cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

ii

nad yw wedi ei esgusodi o unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol;

iii

nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a

iv

nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

4

At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 122, caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).