RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU
Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd123
1
Os digwydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2) yn ystod blwyddyn academaidd—
a
caiff myfyriwr fod â’r hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a
b
nid oes grant o’r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
2
Y digwyddiadau yw—
a
cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;
b
y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
c
y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn un o’i dinasyddion yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
d
y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
e
y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
f
y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu
g
y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.