RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys122

1

Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo, mewn perthynas ag ymgymryd ohono â chwrs ôl-radd dynodedig.

2

Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi ei hepgor gan baragraff (4).

3

Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth o dan reoliad 127, wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

b

bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â’r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (9), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—

a

os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—

i

bwrsari gofal iechyd;

ii

unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007;

iii

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

iv

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan sefydliad A sy’n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu

v

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 200087 sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu

b

os yw A wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

c

os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

d

os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

5

At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

6

Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

a

cyn 25 Medi 1991; a

b

gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,

y bydd paragraff (4)(c) yn gymwys.

7

Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod odano.

8

Ac eithrio pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 129(3)(c)(ii) yn gymwys, fel bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â rhan o’i gwrs dramor, nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig.

9

Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13) ac er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4) mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10)(a) neu (b).

10

Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw—

a

bod―

i

y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ii

y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol; a

iii

statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

b

bod—

i

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen bod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol;

ii

statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

iii

y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a

iv

statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

11

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu statws ffoadur ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

12

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

13

Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef bod y myfyriwr yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

14

Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

a

mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

b

cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

c

cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

d

cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.