RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Gordaliadau121
1
Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
2
Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser, grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion onid ydynt o’r farn nad yw’n briodol gwneud hynny.
4
Dyma’r dulliau adennill—
a
tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr rhan-amser cymwys o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
b
cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.
5
Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl neu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn tynnu allan o’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
6
Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
7
Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.
8
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
a
bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyriwr rhan-amser anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;
b
bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
c
nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.
9
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
a
bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a
b
bod taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr yn cael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.
10
Pan fo gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.