RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Talu benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser120

1

Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser y mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn atebol i wneud taliad iddo.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser yn y rhandaliadau hynny (os bydd rhandaliadau) ac ar yr adegau hynny y maent yn eu hystyried yn briodol.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser nac unrhyw randaliad o’r benthyciad hwnnw oni bai eu bod wedi cael y canlynol oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol—

a

cais am daliad; a

b

datganiad o dan reoliad 113(2) i (6).

4

Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan y rheoliad hwn yn yr achosion hynny y barnant sy’n briodol.