RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Talu grantiau ar gyfer ffioedd mewn perthynas â chyrsiau rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014119

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 i’r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais mewn ysgrifen am daliad ddod i law, a ystyrir yn gais dilys gan Weinidogion Cymru.

2

Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) yr ystyriant yn briodol.

3

Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion yr ystyriant yn briodol.