RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Dehongli rheoliad 117118
Yn rheoliad 117—
a
ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw cadarnhad mewn ysgrifen gan yr awdurdod academaidd—
i
bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—
aa
pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais am un neu ragor o elfennau’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion (“cymorth rhan-amser” yn y rheoliad hwn) mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf;
bb
pan fo gan y myfyriwr rhan-amser cymwys anabledd; ac
cc
pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs ond nad yw’n bresennol ar y cwrs (pa un a yw’r rheswm am beidio â bod yn bresennol yn ymwneud â’i anabledd ai peidio);
ii
bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn bresennol yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu’r cwrs—
aa
pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth rhan-amser mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf;
bb
pan nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs rhan-amser dynodedig o gwrs arall yn yr un sefydliad; ac
cc
nad yw is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;
iii
bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais am gymorth rhan-amser mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—
aa
a hynny am dro heblaw’r tro cyntaf; neu
bb
am y tro cyntaf wedi i statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys gael ei drosglwyddo i’r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;
b
ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn talu cymorth mewn perthynas ag ef o dan reoliadau 101 i 110 neu y byddent wedi talu’r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben.