RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Cymorth at ffioedd o ran presenoldeb ar gyrsiau rhan-amser yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014112

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan y Rhan hon i gynorthwyo at ffioedd i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban.

2

Rhaid i’r cymorth a delir o dan baragraff (1) beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o—

a

mwyafswm y cymorth a fyddai wedi bod yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys o dan reoliad 97(1)(a) pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru; a

b

mwyafswm y cymorth i gynorthwyo at ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru yn ôl pa un a yw’n bresennol ar gwrs rhan-amser dynodedig yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban—

i

yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf 1998 pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn preswylio fel arfer yn Lloegr ac yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser yn Lloegr;

ii

yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 a 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth Myfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngogledd Iwerddon ac yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser yng Ngogledd Iwerddon; neu

iii

o gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach ac Addysg Uwch yr Alban86 pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys fel arfer yn preswylio yn yr Alban ac yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser yn yr Alban.