RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Ceisiadau am gymorth111

1

Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol.

2

Rhaid i’r canlynol fynd gyda’r cais—

a

datganiad o dan reoliad 113(2) i (6) wedi ei lenwi gan yr awdurdod academaidd; a

b

y dogfennau ychwanegol hynny y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.

4

Nid yw paragraff (3) yn gymwys—

a

os yw un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 94(4) yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau ar y dyddiad pan fo’r digwyddiad yn digwydd.

b

os yw’r ceisydd yn gwneud cais am grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu

c

os yw Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.

5

Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

6

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd mewn ysgrifen a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.