RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion –cymhwyso’r cyfraniad109

1

Mae swm sy’n hafal i’r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl fel y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 6 i’w gymhwyso hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu yn erbyn swm yr elfen benodol o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w cael fel a ganlyn—

a

yn gyntaf, i ostwng PTADG;

b

yn ail, i ostwng PTCCG;

c

yn drydydd, i ostwng PTPLA.

2

Yn y rheoliad hwn—

a

PTADG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 106;

b

PTCCG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 106;

c

PTPLA yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 106 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).