RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli107

1

Yn rheoliadau 101 i 106—

a

yn ddarostyngedig i baragraff (4), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr rhan-amser cymwys ac eithrio plentyn y myfyriwr rhan-amser cymwys, partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gynbartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;

b

mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto sy’n ddibynnol arno;

c

ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw, ym mhob achos, yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

d

ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

e

ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys;

f

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 101 i 106) mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

g

ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol;

h

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;

i

mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

j

yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i), (j), (k) a pharagraffau (2) a (3), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

i

priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

ii

partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

iii

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys hwnnw, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

iv

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr rhan-amser cymwys hwnnw, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

k

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

l

ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

m

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr rhan-amser cymwys i’w asesu mewn perthynas â hi;

n

ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr rhan-amser cymwys);

o

ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifiannu at ddibenion—

i

y Deddfau Treth Incwm;

ii

deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

iii

os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw,

ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ac a delir i barti arall, yn cael ei ddiystyru;

p

oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—

i

os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

ii

os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys;

q

at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6;

r

at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6.

2

Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

3

At ddibenion rheoliad 104—

a

nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a

b

mae person i’w drin fel partner pe byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person yn byw gydag ef yn arferol yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6.

4

At ddibenion penderfynu a yw person yn gynbartner i bartner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, ystyr “partner” (“partner”), o ran partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, yw—

a

priod i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;

b

partner sifil i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;

c

pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai A yn briod i B;

d

pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai A yn bartner sifil i B.

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependent”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—

a

yn ddibynnol—

i

ar y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unig; neu

ii

ar bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unig; ond

b

yn ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.

6

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff (4), os yw A—

a

yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

b

yn gynbartner i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys.

7

Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 103(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 106(2)) am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

a

unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

b

budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199281;

c

unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200282;

d

unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

e

yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 198983;

f

unrhyw daliad i’r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989;

g

unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno84;

h

unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 200285; ac

i

yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—

i

unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a

ii

unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).

8

Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei ostwng—

a

o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu

b

o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi ysgwyddo rhwymedigaeth lai.

9

At ddibenion paragraff (6), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr rhan-amser cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, mae’r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn dibynnol.

10

Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 6.

11

Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 6 (ac eithrio is-baragraffau (8), (9) neu (10) o baragraff 4) gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr rhan-amser cymwys.