RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni105

1

Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig i gael y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o ddibynyddion sy’n blant dibynnol.

2

Mae swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 106 a 108 i 110, a’r swm sylfaenol yw £1,557.