RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Grant rhan-amser ar gyfer gofal plant104
1
Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys, mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig, hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae’r grant rhan-amser ar gyfer gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn ysgwyddo costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi, a hynny ar gyfer—
a
plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau; neu
b
plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 199679 ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.
3
Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 200280 neu os oes ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant).
4
Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae’n eu hysgwyddo’n cael eu talu neu os ydynt i’w talu gan y myfyriwr rhan-amser cymwys i’w bartner.
5
Yn ddarostyngedig i baragraffau (6), (7) ac (8), rheoliad 106 a rheoliadau 108 i 110, swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—
a
ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu
b
ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael unrhyw grant o’r fath mewn perthynas â phob wythnos sy’n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.
6
Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant—
a
mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
b
os yw wythnos yr ysgwyddir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi’r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu’r canlyniad â saith.
7
Pan na fo cais myfyriwr rhan-amser cymwys am grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn nodi darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru—
a
cyfyngu ar swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85 y cant o’r costau gofal plant rhagnodedig hyd at uchafswm o £115 yr wythnos; a
b
cyfyngu ar y taliad o grant rhan-amser ar gyfer gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.
8
Caiff Gweinidogion Cymru barhau i gyfyngu ar y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â pharagraff (7) hyd nes y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cyflwyno manylion y darparwr gofal plant iddynt.