RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed103

1

Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gwrs rhan-amser dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Mae’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd naill ai—

a

yn bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys; neu

b

yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr rhan-amser cymwys a hwnnw’n ddibynnydd nad yw ei incwm net am y flwyddyn berthnasol yn fwy na £3,923.

3

Bydd swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 106 a 108 i 110, a’r swm sylfaenol yw—

a

£2,732; neu

b

os yw’r person y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.