RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – cyffredinol102

1

Mae’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion wedi eu ffurfio o’r elfennau canlynol—

a

grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed;

b

grant rhan-amser ar gyfer gofal plant;

c

lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni.

2

Nodir amodau’r hawl i gael pob elfen yn rheoliadau 103 i 110 a phenderfynir ar y symiau sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yn unol â’r rheoliadau hynny.

3

Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliadau 108 a 109.