RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – cyffredinol101

1

Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod—

a

nad yw wedi ei hepgor o fod â hawl gan unrhyw un o’r paragraffau canlynol, rheoliad 93 neu reoliad 96; a

b

bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais amdano.

2

Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.

3

Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw dwysedd yr astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.

4

At ddibenion paragraff (3) mae dwysedd yr astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 97(2) a (3).