RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl100
1
Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr ei ysgwyddo, mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig, oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant y mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys i’w gael o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
3
Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
a
£15,885 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
b
£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
c
y gwariant ychwanegol sy’n cael ei ysgwyddo—
i
yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad;
ii
yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;
d
£1,338 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy’n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.
4
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
5
Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.
6
Pan fo rheoliad 94(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraffau (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 94(4) ddigwydd y caiff myfyriwr rhan-amser cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.