RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Terfynau amser10

1

Yn ddarostyngedig i baragraff , rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

a

os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd;

b

os yw’r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 23 neu reoliad 24 neu fenthyciad newydd at ffioedd o dan reoliad 25 neu fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 22 neu fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 49 neu fenthyciad at ffioedd coleg o dan Atodlen 4 neu os yw’n ceisio am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 23(4), swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd o dan reoliad 25(4), swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 22(6), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 24(3), neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 64(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd coleg o dan baragraff 10(2) o Atodlen 4 ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi;

c

os yw’r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 22(4) neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 64(1), ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â’r uchafswm wedi ei gynyddu, pa un bynnag yw’r olaf;

d

os yw’r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 29, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol;

e

os yw’r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat neu fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam, neu swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat o dan reoliad 26(4), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam o dan reoliad 27(4), ac mewn achos o’r fath rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi;

f

os yw Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt mewn ysgrifen.