ATODLEN 6ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION
Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys3
1
Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall sy’n daladwy o dan bolisi a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004100, neu pan gyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.
2
Os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, ni ddiystyrir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach diystyrir ei incwm i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.
3
Pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—
a
os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr rhan-amser cymwys fel hyn;
b
fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd ar gyfer y mis y daeth i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol101.