ATODLEN 6ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION
Incwm yr aelwyd2
1
Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
2
Incwm yr aelwyd—
a
yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys a chanddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei gyfuno gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu
b
yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys.
3
Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae’r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr hwnnw.
4
Er mwyn cyfrifo’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy’n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy’n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (a) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy’n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner sy’n fyfyriwr cymwys ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy’n rhiant neu bartner y myfyriwr sy’n rhiant neu’r ddau.