ATODLEN 6ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION
Diffiniadau1
1
Yn yr Atodlen hon—
a
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;
b
mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
c
ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;
d
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;
e
ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;
f
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—
i
priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
ii
partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
iii
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
iv
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
g
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
h
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;
i
ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff 4 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) a’r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a hwnnw’n incwm a gafwyd ar ôl didynnu treth incwm; ac
j
ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 3, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 111 ac, o ran paragraff 4, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) â’r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi ei gyfrifiannu at ddibenion—
i
y Deddfau Treth Incwm;
ii
deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu
iii
os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),
ac eithrio bod incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall yn cael ei ddiystyru.
2
Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.