ATODLEN 6ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION
Diffiniadau1
1
Yn yr Atodlen hon—
a
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;
b
mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
c
ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;
d
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;
e
ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;
f
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—
i
priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
ii
partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
iii
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
iv
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
g
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
h
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;
i
ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff 4 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) a’r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a hwnnw’n incwm a gafwyd ar ôl didynnu treth incwm; ac
j
ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 3, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 111 ac, o ran paragraff 4, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) â’r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi ei gyfrifiannu at ddibenion—
i
y Deddfau Treth Incwm;
ii
deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu
iii
os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),
ac eithrio bod incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall yn cael ei ddiystyru.
2
Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.
Incwm yr aelwyd2
1
Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
2
Incwm yr aelwyd—
a
yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys a chanddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei gyfuno gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu
b
yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys.
3
Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae’r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr hwnnw.
4
Er mwyn cyfrifo’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy’n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy’n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (a) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy’n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner sy’n fyfyriwr cymwys ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy’n rhiant neu bartner y myfyriwr sy’n rhiant neu’r ddau.
Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys3
1
Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall sy’n daladwy o dan bolisi a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004100, neu pan gyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.
2
Os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, ni ddiystyrir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach diystyrir ei incwm i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.
3
Pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—
a
os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr rhan-amser cymwys fel hyn;
b
fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd ar gyfer y mis y daeth i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol101.
Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys4
1
Er mwyn pennu incwm trethadwy partner (“A” yn y paragraff hwn) myfyriwr rhan-amser cymwys, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i’w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—
a
ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;
b
yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly odano neu odani; neu
c
o dan is-baragraff (2)
beidio â chael eu gwneud na’u caniatáu.
2
Er mwyn pennu incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) swm cyfanredol unrhyw symiau sy’n dod o dan unrhyw rai o’r paragraffau canlynol—
a
swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;
b
mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.
3
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.
4
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod, ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod, yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn academaidd o’i gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi, drwy gymryd mai incwm gweddilliol A yw cyfartaledd incwm gweddilliol A am bob un o’r blynyddoedd ariannol y mae’r flwyddyn academaidd honno’n digwydd ynddynt.
5
Os yw A yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.
6
Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—
a
nad yw A’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;
b
nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu
c
bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.
7
Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon mewn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon fydd gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y’i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
8
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir incwm y partner i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.
9
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1), ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â nifer yr wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol pan nad oedd y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner, yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu.
10
Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.
Cyfrifo’r cyfraniad5
1
Mae’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys fel a ganlyn—
a
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £39,793, £1 am bob £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £39,793; a
b
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.
2
Rhaid i’r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.
3
Caniateir i’r cyfraniad gael ei addasu’n unol â pharagraff 6.
4
Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.
5
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os cyfansoddir incwm yr aelwyd o incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys, a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.
Cyfraniadau hollt6
Os defnyddir yr un incwm aelwyd i asesu swm dyfarniad statudol y mae gan ddau neu ragor o bersonau hawl i’w gael, rhennir y cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â’r myfyriwr rhan-amser cymwys â’r nifer hwnnw o bersonau.