ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Cyfrifo cyfraniad – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd9

1

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a phan nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

a

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £39,778, £1 am bob £8.97 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £39,778; a

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,778 neu lai, dim.

2

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac yn fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

a

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £50,753, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,753; a

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,753 neu lai, dim.

3

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac yn fyfyriwr carfan 2011, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

a

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £50,448, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,448; a

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,448 neu lai, dim.

4

Rhaid i’r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

5

Caniateir addasu’r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.

6

Pan fo is-baragraff (7) yn gymwys, rhaid i swm cyfanredol y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

7

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn) mewn perthynas â’r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

b

os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a’i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.