ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL
Cyfrifo cyfraniad – myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn8
1
Mae’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn nad yw’n fyfyriwr cymwys annibynnol, neu fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy’n fyfyriwr cymwys annibynnol ac iddo bartner, fel a ganlyn—
a
mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £23,680 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob £8.78 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £23,680; a
b
mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.
2
Mae’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy’n fyfyriwr cymwys annibynnol heb bartner fel a ganlyn—
a
mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £11,025 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob £8.61 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £11,025; a
b
mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.
3
Rhaid i swm y cyfraniad sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,992 mewn unrhyw achos.
4
Caniateir addasu’r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.
5
Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £7,992.
6
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
a
os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd) mewn perthynas â’r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu
b
os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a’i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.