ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL
Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant5
1
Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant (“A” yn y paragraff hwn) myfyriwr cymwys, rhaid i ddidyniadau y disgwylir eu gwneud neu esemptiadau a ganiateir—
a
ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 198899 neu, os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol tebyg;
b
yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu
c
o dan is-baragraff (2),
beidio â chael eu gwneud neu eu caniatáu.
2
Er mwyn pennu incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o dan unrhyw rai o’r paragraffau canlynol—
a
swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm.
b
mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (7) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;
c
pan fo A yn fyfyriwr sy’n rhiant neu pan fo gan A ddyfarniad statudol, £1,130.
3
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol” yn y paragraff hwn), yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gynharach, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.
4
Os digwydd bod is-baragraff (3) neu’r is-baragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol, a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod yn ddim mwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at y diben o alluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, asesu incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.
5
Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol A o dan is-baragraff (3), neu, pan fo’n gymwys, o dan is-baragraff (4), a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
6
Os yw A’n bodloni Gweinidogion Cymru fod incwm A yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.
7
Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—
a
nad yw A’n preswylio neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;
b
nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu
c
bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.
8
Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon fydd gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y’i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
9
Os bydd farw un o rieni’r myfyriwr cymwys naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi ei gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi ei gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—
a
os yw’r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu
b
os yw’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—
i
y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a
ii
y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol sy’n weddill ar ôl i’r rhiant arall farw.
10
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm pa un bynnag o’r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu mai ef yw’r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.
11
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni’n gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—
a
y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (10), sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol pan fydd y rhieni ar wahân; a
b
y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.