ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL
Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys4
1
Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r paragraffau canlynol—
a
unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw’r tâl hwnnw’n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi ei ryddhau o’i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
b
swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 200497, neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm.
2
Os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae’n cael ei anwybyddu i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.
3
Os yw’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—
a
os yw’r myfyriwr cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr cymwys felly;
b
fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol98 ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.