ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL
Myfyriwr cymwys annibynnol2
1
Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol ym mhob achos—
a
pan fo’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
b
pan fo’r myfyriwr cymwys yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;
c
pan nad oes gan y myfyriwr cymwys riant yn fyw;
d
pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na ellir dod o hyd i’r naill neu’r llall o rieni’r myfyriwr cymwys neu nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall ohonynt;
e
pan nad yw’r myfyriwr cymwys wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;
f
os bu’r myfyriwr cymwys dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 198995 a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;
g
os yw rhieni’r myfyriwr cymwys yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni naill ai—
i
y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
ii
na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;
h
pan fo paragraff 5(10) yn gymwys a lle mae’r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai’r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);
i
pan ddechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 ac yntau’n aelod o urdd grefyddol sy’n preswylio yn un o dai’r urdd honno;
j
pan fo’r myfyriwr cymwys yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu
k
pan fo’r myfyriwr cymwys (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi cynnal ei hun o’i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda’i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff rhaid trin A fel pe bai’n cynnal ei hun o’i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—
i
pan oedd A yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi’r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau’r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);
ii
pan oedd A yn cael budd-dal sy’n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i’w gyflogi ond sy’n ddi-waith;
iii
pan oedd A ar gael i’w gyflogi a’i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau’r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;
iv
pan oedd gan A efrydiaeth y wladwriaeth96 neu ddyfarniad tebyg; neu
v
pan oedd A yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
2
Mae myfyriwr cymwys sy’n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(j) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw’r statws hwnnw tra pery’r cyfnod cymhwystra.