ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL
Diffiniadau1
1
Yn yr Atodlen hon—
a
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;
b
mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;
c
mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
d
ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;
e
ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;
f
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;
g
ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;
h
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—
i
priod myfyriwr cymwys;
ii
partner sifil myfyriwr cymwys;
iii
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’n briod iddo os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a’i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
iv
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’n bartner sifil iddo os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a’i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
i
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol ac eithrio rhiant arall i’r myfyriwr cymwys—
i
priod rhiant myfyriwr cymwys;
ii
partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;
iii
person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai’n briod â’r rhiant;
iv
person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai’n bartner sifil i’r rhiant;
j
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
k
ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;
l
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;
m
ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd) ac incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), sef incwm sy’n weddill ar ôl didynnu treth incwm; ac
n
ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 4, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6) o baragraff 5) â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifiannu at ddibenion—
i
y Deddfau Treth Incwm;
ii
deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu
iii
os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5)
ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall, yn cael ei ddiystyru.
2
Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 197392 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno93 neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 200494 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.