ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd8

Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o’r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, er mwyn penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â’r gyntaf o’r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â’r blynyddoedd canlynol o’r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.