ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd5

Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 6 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

a

caiff myfyriwr fod â’r hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

b

nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.