ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG
Talu12
1
Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i’w gael i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at ffioedd coleg mewn un cyfandaliad.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad at ffioedd coleg—
a
cyn eu bod wedi cael cais am daliad mewn ysgrifen, a ystyrir yn gais dilys gan Weinidogion Cymru, oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol; a
b
cyn bod cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
4
Mae’n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd nes eu bod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu’r neuadd breifat berthnasol, oni fyddant yn penderfynu, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb.
6
Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yr un ystyr ag yn rheoliad 75.
7
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol—
a
os bydd y myfyriwr cymhwysol cyn i’r cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben yn rhoi’r gorau i fynychu’r cwrs neu yn achos myfyriwr y bernir ei fod yn bresennol o dan baragraff 4, yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’r cwrs; a
b
os bydd y coleg neu’r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu neu, yn ôl fel y digwydd, yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.