ATODLEN 3GWYBODAETH
1
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi’r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn digwydd—
a
y ceisydd neu fyfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel oddi arno;
b
y ceisydd neu fyfyriwr yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;
c
y ceisydd neu fyfyriwr yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’i gwrs ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw’n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
d
y ceisydd neu fyfyriwr yn absennol o’i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
e
bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;
f
bod cyfeiriad neu rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor, y ceisydd neu fyfyriwr, yn newid.
3
Rhaid i’r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy’n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru fodloni’r gofyniad hwnnw.