ATODLEN 2CYRSIAU DYNODEDIG

Rheoliadau 5, 78 a 95

1

Cwrs gradd gyntaf.

2

Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.

3

Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

a

Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu

b

Awdurdod Cymwysterau’r Alban.

4

Cwrs ar gyfer tystysgrif Addysg Uwch.

5

Cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

6

Cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned.

7

Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol—

a

yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu’r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu

b

yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu’r llall o’r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,

nad yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

8

Cwrs—

a

sy’n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon yn uwch na safon cyrsiau sy’n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o’r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 7(a) neu (b) ond heb fod yn uwch na chwrs gradd gyntaf; a

b

nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.