ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys
RHAN 2Categorïau
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall8
1
Person—
a
sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
b
a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;
c
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;
d
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
e
mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).
2
At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio’n barhaol, os yw’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.