ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

RHAN 2Categorïau

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd7

Person sydd—

a

yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud91, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.