ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

RHAN 2Categorïau

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd5

1

Person—

a

sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

b

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

c

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;

c

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

d

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches,

yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

c

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

i

y cais am loches; neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;

d

sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

e

sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.