ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys
RHAN 2Categorïau
Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd4
1
Person—
a
sy’n ffoadur;
b
sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur; ac
c
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
2
Person—
a
sy’n briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur;
b
oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;
c
sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
d
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
3
Person—
a
sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
b
ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
c
oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;
d
sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
e
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.