ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys
RHAN 1Dehongli
1
1
At ddibenion yr Atodlen hon—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—
- a
o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE—
- i
priod y person neu ei bartner sifil;
- ii
disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—
- aa
o dan 21 oed; neu
- bb
yn ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu
- aa
- iii
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
- i
- b
o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
- i
priod y person neu ei bartner sifil; neu
- ii
plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;
- i
- c
o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—
- i
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
- ii
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
- aa
o dan 21 oed; neu
- bb
yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;
- aa
- i
- d
o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—
- i
priod neu bartner sifil y gwladolyn;
- ii
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
- aa
o dan 21 oed; neu
- bb
yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
- aa
- iii
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;
- i
- e
o ran gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
- i
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
- ii
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
- aa
o dan 21 oed; neu
- bb
yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;
- aa
- i
- a
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 199989 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd;
ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE—
- a
sy’n weithiwr yng Nghymru; a
- b
sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
- a
ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
- a
yn berson cyflogedig yng Nghymru; a
- b
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
- a
o ran gwladolyn o’r AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd; neu
- b
o ran gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sydd—
- a
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
- b
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
- a
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
- a
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
- b
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
- a
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 197190.
2
At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.
3
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at y diben o ymgymryd ag—
a
y cwrs presennol, y cwrs dysgu o bell presennol, y cwrs rhan-amser presennol neu’r cwrs ôl-radd presennol; neu
b
gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â’r cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (a),
i’w ystyried yn berson sy’n preswylio’n arferol yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.
4
At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe byddai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
a
A;
b
priod neu bartner sifil A;
c
rhiant A; neu
d
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth a ffurfir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.
5
At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys—
a
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu’r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o’r cyfryw luoedd; a
b
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o’r cyfryw luoedd.
c
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o’r cyfryw luoedd.
6
At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—
a
nad oedd gynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
b
sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r ardaloedd hyn,
i’w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
7
At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod carcharor cymwys yn preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.
RHAN 2Categorïau
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
2
1
Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
a
wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
b
yn preswylio fel arfer yng Nghymru;
c
wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser.
2
Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
3
Person—
a
sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
b
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
d
mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd4
1
Person—
a
sy’n ffoadur;
b
sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur; ac
c
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
2
Person—
a
sy’n briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur;
b
oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;
c
sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
d
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
3
Person—
a
sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
b
ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
c
oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;
d
sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
e
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd5
1
Person—
a
sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
b
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
c
sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
2
Person—
a
sy’n briod neu’n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
b
a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
i
y cais am loches; neu
ii
y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;
c
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
d
sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
3
Person—
a
sy’n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
b
a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
i
y cais am loches; neu
ii
y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches,
yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
c
a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
i
y cais am loches; neu
ii
y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;
d
sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
e
sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd
6
1
Person—
a
sydd—
i
yn weithiwr mudol o’r EEA neu yn berson hunangyflogedig o’r EEA;
ii
yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;
iii
yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);
iv
yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunangyflogedig ffin yr EEA;
v
yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu’n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu
vi
yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);
b
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
2
Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7
Person sydd—
a
yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
b
wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
c
â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud91, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall8
1
Person—
a
sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
b
a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;
c
sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;
d
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
e
mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).
2
At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio’n barhaol, os yw’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.
Gwladolion o’r UE
9
1
Person—
a
sydd naill ai—
i
yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sydd yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu
ii
yn aelod o deulu person o’r fath;
b
sydd—
i
yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu
ii
yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;
c
wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
d
yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser.
2
Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
3
Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.
4
At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw’r Deyrnas Unedig.
10
1
Person—
a
sy’n wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
b
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
d
mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
2
Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o’r UE heblaw gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.
Plant gwladolion Swisaidd11
Person—
a
sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
b
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
c
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
d
mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
Plant gweithwyr Twrcaidd12
Person—
a
sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
b
sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
c
sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy’r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.