- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
21.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â’r Rhan hon ar yr amod nad yw’r myfyriwr wedi ei hepgor o fod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—
(a)os yw’r flwyddyn honno—
(i)yn flwyddyn bwrsari;
(ii)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
(iii)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012; neu
(b)os yw’r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chwrs mynediad graddedig carlam.
22.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—
(a)os oes ganddo hawl i gael grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno neu os byddai wedi bod yn gymwys pe byddai wedi gwneud cais am y grant (hyd yn oed pe byddai swm y grant wedi bod yn ddim); a
(b)os darperir y cwrs dynodedig gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ar 1 Awst 2005.
(2) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant ar gyfer ffioedd ac am fenthyciad cyfrannu at ffioedd, swm y benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw’r swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na’r swm a ddidynnwyd o’i grant ar gyfer ffioedd yn unol â rheoliad 67.
(3) Os benthyciad cyfrannu at ffioedd yw’r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—
(a)y swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na £1,380 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £680, os yw’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban; neu
(b)y swm y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano a hwnnw’n swm nad yw’n fwy na £1,425 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £700, os yw’r cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon.
(4) Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd dim ynghynt) sydd wedi ei hysbysu i’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu fel arall; a
(b)os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd bod y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn—
(i)wedi methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae ganddo hawl i’w gael; neu
(ii)rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
(5) Nid yw’r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm wedi ei gynyddu.
(6) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
23.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy ganddo mewn perthynas â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£3,465 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,725; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(3) Os oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael benthyciad at ffioedd o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i swm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£3,685 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,835; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall,
(4) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.
(6) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012.
(7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.
24.—(1) Caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad at ffioedd mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs dynodedig cymhwysol.
(2) Uchafswm y benthyciad at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£1,380 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £680; a
(b)gweddill y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a swm sy’n hafal i’r grant at ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall wedi ei ddidynnu oddi wrtho.
(3) Os yw’r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.
25.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes benthyciad newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—
(a)yn flwyddyn bwrsari;
(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
(3) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 17(4), 20(7), 20(8) neu 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£3,685; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(4) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu reoliad 20(7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£1,835; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(5) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw rheoliad 20(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£900; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(6) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw rheoliad 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£675; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(7) Os yw myfyriwr carfan 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr carfan 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.
(8) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr carfan 2012 sydd â’r hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.
26.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—
(a)yn flwyddyn bwrsari;
(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
(3) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 17(4), 20(7), 20(8) neu 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£6,000;,a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(4) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) neu reoliad 20(7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£3,000; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(5) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw rheoliad 20(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£1,200; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(6) Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat os yw rheoliad 20(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£900; a
(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(7) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.
27.—(1) Mae gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn Erasmus.
(3) Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£5,535; neu
(b)y gwahaniaeth rhwng £3,465 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.
(4) Os yw myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: