RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER
Myfyrwyr dysgu o bell cymwys76
1
Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu ei gais am gymorth o dan reoliad 84, yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (8) nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—
a
os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd i A neu os talwyd i A, mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—
i
bwrsari gofal iechyd pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
ii
unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 200769; neu
iii
lwfans gofal iechyd yr Alban a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
b
os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
c
os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;
d
os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu
e
yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw A yn garcharor.
4
Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—
a
os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon yn fyfyriwr anabl; a
b
os rhoddwyd neu os talwyd i’r person mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—
i
bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu
ii
lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y person ai peidio.
5
Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd i’r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl bwrw dedfryd o’r fath.
6
At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
7
Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—
a
cyn 25 Medi 1991; a
b
gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.
8
Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (9)(a) neu (b).
9
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yw—
a
bod―
i
y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
ii
y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs dysgu o bell presennol; a
iii
statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.
b
bod—
i
Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—
aa
yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;
bb
yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig ac eithrio’r cwrs dysgu o bell presennol; neu
cc
yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;
ii
statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
iii
y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a
iv
statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.
10
Pan fo—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
b
ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu briod, partner sifil, rhiant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu lys-riant A, yn ôl fel y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 200270),
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
11
Pan fo—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
b
ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
12
Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
13
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—
a
at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;
b
at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;
c
at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;
d
at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl- radd dynodedig.
Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd77
1
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
a
caiff myfyriwr yr hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
b
nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.
2
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
a
caiff myfyriwr yr hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a
b
nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.
3
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
a
caiff myfyriwr yr hawl i grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; ac
b
nid yw grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.
4
Y digwyddiadau yw—
a
bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;
b
bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
c
bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
d
bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;
e
bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
f
bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
g
bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;
h
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu
i
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd.
Cyrsiau dysgu o bell dynodedig78
1
Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 76 os dynodir ef gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—
a
bod y cwrs yn cael ei restru yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
b
bod y cwrs yn gwrs llawnamser;
c
bod y cwrs yn parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;
d
nad yw’n ofynnol gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs bod myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn bresennol ar y cwrs; ac
e
yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
3
At ddibenion penderfynu a yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—
a
unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—
i
cofrestru neu ymrestru;
ii
arholiad;
b
unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;
c
unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad sy’n darparu’r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw’n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad hwnnw.
4
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—
a
os yw’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a
b
os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.
5
Mae cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—
a
os yw myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 87 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; a
b
pe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.
Cyfnod cymhwystra79
1
Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 76.
2
Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
3
Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 76, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.
4
Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys (“A” yn y paragraff hwn ac ym mharagraff (5))—
a
yn tynnu’n ôl o’i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi statws A o dan reoliad 87, 88, 89 neu 115; neu
b
yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
5
Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
6
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
a
terfynu’r cyfnod cymhwystra;
b
penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;
c
trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 92.
7
Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.
Cymorth at gyrsiau dysgu o bell80
1
At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—
a
grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—
i
£1,025; neu
ii
y ffioedd gwirioneddol, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a
b
grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig.
2
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan baragraff (1)(b) os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys oddi tano yw paragraff 9.
3
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn—
a
os yw’n fyfyriwr anabl; a
b
os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig—
i
bwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys; neu
ii
lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys ai peidio.
4
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
5
Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl bellach i gael cymorth o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
6
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfnod cyfanredol o wyth o flynyddoedd academaidd ac wedi cael benthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (7) mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny.
7
Y benthyciadau a’r grantiau yw—
a
benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o Ddeddf 1998;
b
benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 199871; neu
c
benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 198072.
8
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
9
At ddibenion paragraff (7), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—
a
os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer cwrs gradd gyntaf y myfyriwr dysgu o bell cymwys; a
b
y myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).
10
Nid oes cymorth yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig.
Swm y cymorth81
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 87(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan reoliad 80 ar gyfer blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
a
os oes gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, hawlogaeth—
i
o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199273 i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;
ii
iii
o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 200776 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;
iv
i gredyd cynhwysol; neu
v
i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;
mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1) yn daladwy;
b
pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1) yn daladwy;
c
pan fo’r incwm perthnasol yn £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(a);
d
pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £16,865, ond yn llai na £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 80(1)(a) yw’r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);
e
pan fo’r incwm perthnasol yn £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 80(1)(a) yw £50;
f
pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 80(1)(a);
g
pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 80(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 80(1)(b) yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;
h
pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 80(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 80(1)(b) yn £50;
i
pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 80(1).
2
Pan fo paragraff (1)(d) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy’n daladwy o dan reoliad 80(1)(a) drwy ddidynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(a) un o’r symiau canlynol—
a
£50 a £1 ychwanegol am bob £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865; neu
b
pan fo’r ffioedd gwirioneddol yn llai na £1,025, cyfanswm sy’n hafal i’r hyn a adewir wedi didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £1,025 a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 80(1)(a)).
Dehongli rheoliad 8182
1
At ddibenion rheoliad 81 a’r rheoliad hwn—
a
yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
i
priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;
ii
partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;
iii
person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;
iv
person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
b
nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i’w drin fel partner os—
i
ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu
ii
bod y person fel rheol yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
c
mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2).
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i’w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—
a
£2,000 mewn perthynas â’i bartner;
b
£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner; a
c
£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner.
3
Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na’i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
4
Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar y dyddiad y gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.
5
Yn y rheoliad hwn—
a
mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto;
b
ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;
c
ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
d
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;
e
ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—
i
unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a
ii
unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 200277;
f
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
g
ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, neu, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.
Grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl83
1
Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â’r Rhan hon i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.
2
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys odano yw paragraff 9.
3
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari.
4
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
5
Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl bellach i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
6
Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr.
7
Ni ddylai swm y grant o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na’r canlynol—
a
£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
b
£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
c
y gwariant ychwanegol a ysgwyddir—
i
o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;
ii
o fewn neu o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;
d
£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a ysgwyddwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.
8
Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), mae’r grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
9
Pan fo grant o dan y rheoliad hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (7)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.
10
Pan fo rheoliad 77(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (7)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 77(4) ddigwydd y caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.
Ceisiadau am gymorth84
1
Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a’i chyflwyno i Weinidogion Cymru.
2
Rhaid anfon gyda’r cais—
a
datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a
b
unrhyw ddogfennaeth ychwanegol a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.
3
Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
5
Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.
6
Nid yw paragraff (5) yn gymwys—
a
pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 77 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;
b
pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu
c
pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.
Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd85
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 84.
2
Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw’n gallu rhoi’r cadarnhad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(ii).
3
Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
a
pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—
i
sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
ii
sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs dysgu o bell dynodedig;
b
mewn unrhyw achos arall, datganiad—
i
sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
ii
sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—
a
swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;
b
ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o’r farn fod y ceisydd yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac
c
mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o’r farn bod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm heblaw’r ffaith na all y ceisydd fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy’n ymwneud ag anabledd y ceisydd.
Gwybodaeth86
Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth gan geisydd neu gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys.
Trosglwyddo statws87
1
Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo o gwrs dysgu o bell dynodedig i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i’r cwrs arall hwnnw—
a
pan dderbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
b
pan ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
c
pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
2
Y seiliau trosglwyddo yw—
a
bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn yr un sefydliad;
b
bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu
c
ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn yr un sefydliad.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth o dan y Rhan hon y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi arno.
4
Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.
5
Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar gymorth o dan y Rhan hon y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 80(1)(b) neu reoliad 83 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo.
6
Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 80(1)(a) mewn perthynas â’r blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y’u diffinnir yn rheoliad 80.
Trosi statws – myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig88
1
Pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig ac yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—
a
pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a
b
pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.
2
Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—
a
pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan Ran 5 i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;
b
mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo, ar wahân i’r rheoliad hwn, mewn cysylltiad â’r myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean os daw’r myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno;
c
pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl sy’n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac
d
pan fo’r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu’r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am y benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â’r paragraff hwnnw.
3
Pan fo’r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad at gostau byw yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu’r uchafswm a gynyddwyd o’r cyfryw fenthyciad (yn ôl fel y digwydd) o ddau draean, ac os yw’r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.
Trosi statws – myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig89
1
Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—
a
pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a
b
pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.
2
Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—
a
pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys;
b
bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y trosglwydda’r myfyriwr hwnnw ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;
c
mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai’r myfyriwr hwnnw ar wahân i’r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno;
d
pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy iddo o dan Ran 5 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo at y diben hwnnw, a phan fo’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.
Talu grantiau ar gyfer ffioedd90
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant mewn perthynas â ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys i’w gael unwaith y byddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—
a
cais am daliad; a
b
cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig.
2
Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) fel y gwelant yn dda.
3
Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy’n briodol.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig” (“confirmation of the eligible distance learning student’s attendance on the designated distance learning course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys dysgu o bell—
a
wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs hwnnw, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad y cyfan o’r grant mewn perthynas â ffioedd neu’r rhandaliad cyntaf o’r grant mewn perthynas â ffioedd; neu
b
yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac yn parhau i ymgymryd â’r cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant mewn perthynas â ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.
5
Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr dysgu o bell cymwys o’r cwrs dysgu o bell dynodedig.
Talu grantiau at lyfrau, teithio a gwariant arall a grantiau at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl91
1
Caiff taliadau’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo drwy drosglwyddiad electronig.
2
Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cânt wneud asesiad dros dro a gwneud taliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall ac o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl.
3
Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 85 oni bai bod eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) yn gymwys.
6
Mae eithriad at ddibenion paragraff (5) yn gymwys—
a
os oes grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a’r pryd hynny gellir talu’r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;
b
os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.
Gordaliadau92
1
Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.
2
Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.
4
Y dulliau o adennill yw—
a
tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
b
cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.
5
Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.
6
Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.
7
O dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.
8
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
a
bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;
b
bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
c
nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr dysgu o bell cymwys cyn diwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr.
9
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
a
bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a
b
bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i’r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.
10
Pan fo gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â’r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.