xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2012 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 3 a esbonnir isod. Bydd Rheoliadau 2012 yn parhau i fod yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 ond cyn 1 Medi 2014. Nodir graddau’r dirymu yn rheoliad 3. Amlygir isod y newidiadau o ran sylwedd a wneir yn y Rheoliadau hyn.

I fod â’r hawl i gael cymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn “fyfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr llawnamser cymwys os yw’r person hwnnw’n dod o fewn un o’r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a hefyd yn bodloni’r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o’r Rheoliadau (mae darpariaethau cymhwystra ar wahân yn gymwys i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell, rhan-amser ac ôl-radd, a chyfeirir atynt yn Rhannau 11 i 13 o’r Rheoliadau).

Mae’r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o unrhyw un o’r ardaloedd hyn er mwyn ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion a bennir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig y gofynion penodol sy’n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

Ar gyfer cyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5, 78, 95, 124 ac Atodlen 2, yn unig, y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.

Mae’r gwahaniaeth (a gyflwynwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006) rhwng myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau llawnamser wedi ei gadw yn y Rheoliadau hyn (rheoliad 2(1)).

Myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yw myfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006, myfyrwyr a gymerodd flwyddyn i ffwrdd ac sy’n dechrau ar gyrsiau cyn 1 Medi 2007 a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae’r grantiau a’r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i’r amodau a ragnodir yn y rheoliadau perthnasol—

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys a ddechreuodd ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2014, neu sy’n dechrau ei gwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014, ac nad yw’n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn. Mae’r grantiau a’r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i’r amodau a ragnodir yn y rheoliadau perthnasol―

Roedd Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009 wedi cyflwyno dau is-gategori newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef “myfyriwr carfan 2010” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010”. Roedd Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 wedi cyflwyno dau is-gategori ychwanegol newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef “myfyriwr carfan 2011” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011”. Yna cyflwynodd Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 un categori ychwanegol newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef myfyriwr carfan 2012. Myfyriwr carfan 2012 yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a bydd y darpariaethau perthnasol yn parhau i fod yn gymwys i fyfyrwyr sy’n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Mae’r diffiniad o fyfyriwr carfan 2012 yn rheoliad 2(1) hefyd yn darparu nad yw categorïau penodol o fyfyrwyr yn cael eu dosbarthu fel myfyrwyr carfan 2012. Mae’r term “myfyriwr carfan newydd” (“new cohort student”) yn rheoliad 2(1) hefyd yn disgrifio’n gyfunol fyfyrwyr carfan 2010, myfyrwyr carfan 2011 a myfyrwyr carfan 2012.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chymhwystra.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac y mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu’r wybodaeth y mae’n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth at ffioedd, ar ffurf grantiau ar gyfer ffioedd a benthyciadau at ffioedd.

Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer talu grant newydd at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012. Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes hawl ganddynt i gael grant at ffioedd. Mae myfyriwr carfan newydd (ar wahân i fyfyriwr carfan 2012) yn dod o fewn y categori hwnnw. Mae rheoliad 24 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr sydd â hawl i gael grant at ffioedd o dan reoliad 19. Ni fydd talu benthyciadau at ffioedd o dan reoliadau 23 a 24 yn gymwys ond mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.

Mae’r benthyciadau at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 wedi eu nodi yn rheoliadau 25 i 27. Mae rheoliad 25 yn darparu ar gyfer talu benthyciad newydd at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012 sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn sefydliadau a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus. Mae rheoliad 26 yn darparu ar gyfer talu benthyciad newydd at ffioedd i sefydliad preifat i fyfyrwyr carfan 2012 sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn sefydliadau preifat. Yn olaf, mae rheoliad 27 yn darparu ar gyfer talu benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer lefelau newydd o gymorth at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012 penodol sy’n ymgymryd â blwyddyn o astudio dramor neu leoliad gwaith fel rhan o gwrs dynodedig. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad gwaith neu flwyddyn o astudio dramor fel rhan o gwrs rhyngosod neu flwyddyn Erasmus. Mae’r cymorth perthnasol wedi ei nodi yn rheoliadau 20, 25 a 26 ac mae newid cysylltiedig wedi ei wneud i’r diffiniad o “Blwyddyn Erasmus” yn rheoliad 2(1).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw, sy’n cynnwys grantiau at deithio, i gategorïau penodol o fyfyrwyr cymwys.

Mae’n darparu y bydd swm y grant cynhaliaeth neu’r grant cymorth arbennig sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn amrywio yn ôl pa un a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (rheoliadau 42 a 46); yn fyfyriwr carfan 2010 ac yn fyfyriwr carfan 2012 (rheoliadau 43 a 47); neu’n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliadau 44 a 48).

Mae rheoliad 32 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grant gofal plant sy’n daladwy mewn perthynas â chostau gofal plant yr ysgwyddir mewn perthynas â phlant sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys, gan gynnwys plant a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau. Mae’r rheoliad hwn bellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfyngu ar swm y grant gofal plant sy’n daladwy pan na fo myfyriwr cymwys yn cyflwyno manylion y darparwr gofal plant.

Mae rheoliadau 30 i 35 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grantiau i ddibynyddion. Mae rheoliad 34 yn darparu y cymerir i ystyriaeth incwm gweddilliol unrhyw bartner neu ddibynnydd mewn oed yn y flwyddyn ariannol gynharach ac incwm net unrhyw blentyn dibynnol yn y flwyddyn ariannol gynharach wrth gyfrifo swm unrhyw grantiau i ddibynyddion. Fodd bynnag, pan fo incwm dibynnydd am y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod 15 y cant yn llai na’i incwm yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru asesu incwm y dibynnydd ar sail y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae rheoliad 35 yn darparu diffiniadau o “blwyddyn ariannol gyfredol”, “blwyddyn ariannol gynharach”, “dibynnydd”, “incwm gweddilliol” ac “incwm net” at y dibenion hyn. Mae darpariaeth gyfatebol wedi ei gwneud mewn perthynas â grantiau rhan-amser i ddibynyddion yn Rhan 12 o’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Mae benthyciadau o’r fath yn daladwy i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn ac i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd.

Gall swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd amrywio yn ôl pa un a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (rheoliad 52); yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio (rheoliad 54); neu’n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliad 55).

Mae Rhan 7 yn nodi darpariaethau cyffredinol ynglŷn â benthyciadau a wneir o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd coleg”. Benthyciadau yw’r rhain mewn perthynas â’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i ddarparu ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau llawnamser dynodedig. Cyfrifir y cyfraniad a fynnir gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae’r cyfraniad i’w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes y’i dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae hawl gan y myfyriwr i’w cael.

Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig.

Mae Rhan 12 ac Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Mae rheoliad 98 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Bydd lefel y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser yn amrywio yn ôl pa un a ddarperir y cwrs rhan-amser dynodedig gan sefydliad yng Nghymru neu sefydliad yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Bydd lefel y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser hefyd yn amrywio yn ôl pa un a ddarperir y cwrs rhan-amser dynodedig gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus neu sefydliad preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Bydd y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys newydd sy’n astudio ar gyrsiau rhan-amser dynodedig sydd â dwysedd astudio o dros 25 y cant.

Mae rheoliad 99 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grant newydd at gyrsiau rhan-amser, sy’n dibynnu ar brawf modd, ac sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Bydd y grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n astudio ar gyrsiau rhan-amser dynodedig sydd â dwysedd astudio o dros 50 y cant.

Mae Rhan 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Mae rheoliadau 29, 32, 37, 41, 45, 83, 100 a 129 yn gwneud darpariaeth (yn rhannol) ar gyfer myfyrwyr a ddaw’n gymwys i gael mathau penodol o gymorth ran o’r ffordd drwy flwyddyn academaidd. Maent yn darparu mai dim ond mewn perthynas â’r chwarteri academaidd yn dilyn y digwyddiad sy’n sbarduno eu cymhwystra y bydd gan y myfyrwyr hynny hawl i gael y cymorth perthnasol bellach.

Mae Rhan 14 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2012 mewn perthynas â “cyrsiau blwyddyn gyntaf gywasgedig”. Cyrsiau yw’r rhain yr ymgymerir â’u blwyddyn gyntaf o astudio ar sail gywasgedig. Mae’r diffiniad o “blwyddyn academaidd” hefyd wedi ei ddiwygio at y diben hwn.